Cwestiynau Cyffredin
Cyfrif Cwsmer
Oes ffi am gofrestru?
Pan fyddwch chi’n cofrestru, bydd angen i chi dalu blaendal o £5 a chaiff hwn ei ddefnyddio i wirio eich cyfrif. Yna, bydd y blaendal hwn yn ymddangos fel credyd yn eich cyfrif. Os ydych chi am gau eich cyfrif, gallwch chi ofyn i’r swm sy’n weddill gael ei ad-dalu (os yw hyn yn berthnasol) ar yr adeg honno.
Rwyf wedi talu’r blaendal ond ni allaf logi beic. Beth dylwn i ei wneud?
Os ydych chi’n cael problemau wrth logi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio’r e-bost dilysu a anfonir i’ch mewnflwch pan fyddwch chi’n cofrestru, clicio ar y ddolen a dychwelyd i’r ap. Os byddwch chi’n cael problemau o hyd, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid drwy ‘cymorth’ yn yr ap.
Sut gallaf ganslo fy nghyfrif?
I ganslo eich cyfrif, anfonwch gais am ganslo eich cyfrif i info@nextbike.co.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad a’r rhif ffôn sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif.
Prisiau
Pryd bydd tâl yn cael ei godi arnaf am logi beic?
Fel arfer, codir tâl am eich taith, drwy eich dull talu, o fewn 48 awr ar ôl diwedd y cyfnod llogi fan bellaf.
Codwyd tâl anghywir arnaf. Beth dylwn i ei wneud?
Cysylltwch â’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid drwy e-bostio neu rhowch wybod am hyn drwy ‘cymorth’ yn yr ap.
Beiciau a Gorsafoedd
Sut gallaf ddod o hyd i orsafoedd swyddogol?
Gellir dod o hyd i’n gorsafoedd drwy’r ap nextbike.
Fydd tâl yn parhau i gael ei godi arnaf os byddaf yn parcio fy meic?
Bydd, bydd eich cyfnod llogi’n weithredol o hyd pan fyddwch chi wedi parcio’r beic ac felly bydd tâl yn cael ei godi arnoch chi os bydd hyn yn berthnasol.
Sut byddaf yn cloi’r beic i oedi?
Os ydych chi am oedi am gyfnod byr yn ystod eich taith a chloi’r beic heb ddod â’r cyfnod llogi i ben, gallwch chi actifadu’r dull parcio yn eich ap a chau’r clo wedyn. Bydd eich cyfnod llogi’n parhau pan fydd y beic wedi’i barcio. Gallwch ddod â’r dull parcio i ben gan ddefnyddio’r ap i agor y clo a pharhau â’ch taith.
Oes rhaid i mi logi a dychwelyd fy meic wrth yr un orsaf?
Gallwch chi ddychwelyd eich beic i unrhyw orsaf yn Abertawe. Does dim rhaid i chi ddychwelyd eich beic i’r orsaf lle gwnaethoch ei logi.
Allaf logi mwy nag un beic ar y tro?
Gallwch, gallwch chi logi hyd at ddau feic ar y tro dan un cyfrif. Sylwer, mae gostyngiadau a chyfraddau aelodaeth yn berthnasol i’r beic cyntaf a logir yn unig ar gyfer pob taith.
Mae’r beic rwyf am ei logi wedi’i ddifrodi. Beth dylwn i ei wneud?
Gwiriwch y beic am ddifrod posib cyn i chi ddechrau ar eich taith. Os ydych chi’n sylwi ar nam, rhowch wybod am hyn ar unwaith drwy’r ap a stopiwch eich taith fel y gellir mynd â’r beic ymaith a’i atgyweirio cyn gynted â phosib. Sylwer na fyddwch chi’n gymwys i gael ad-daliad os byddwch chi’n parhau â’ch taith.
Beth dylwn i ei wneud os ydw i’n dod o hyd i broblem yn ystod fy nhaith?
Os ydych chi eisoes wedi dechrau ar eich taith ac rydych chi’n sylwi ar nam, stopiwch eich taith ar unwaith a ffoniwch wasanaethau cwsmeriaid neu rhowch wybod am y broblem gan ddefnyddio’r ap.
Does dim lle yn yr orsaf lle rwyf am ddychwelyd fy meic. Beth dylwn i ei wneud?
Os nad oes lleoedd mewn gorsaf, dylech chi gloi’r beic a’i adael ar bwys yr orsaf i ddod â’ch cyfnod llogi i ben.