Neidio i'r prif gynnwys

Ffordd gyflymach a rhatach o deithio o gwmpas y campws a’r ddinas!

Mae Beiciau Prifysgol Abertawe’n darparu dull fforddiadwy, egnïol a chynaliadwy i chi deithio i’r dosbarth, i’r gwaith neu i gaffi. Rydym yn cynnig gostyngiad ar logi beiciau i staff a myfyrwyr – darllenwch yr wybodaeth isod.

Lawrlwythwch yr ap nextbike nawr

Cliciwch isod i ddod o hyd i’ch cynnig:

Sicrhewch eich cyfradd flynyddol ostyngol

Mae gan fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe fynediad at aelodaeth flynyddol am bris gostyngol sy’n caniatáu i chi logi beiciau safonol am 30 munud nifer diderfyn o weithiau. 

  1. Cofrestrwch gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost @abertawe.ac.uk a dilysu eich e-bost. Caiff yr aelodaeth ei hychwanegu’n awtomatig unwaith eich bod chi wedi dilysu eich e-bost.
  2. Llenwch eich manylion talu. Mae angen blaendal £5. Defnyddir y blaendal hwn i wirio eich gwybodaeth a bydd yn arddangos fel credyd yn eich cyfrif. Sylwer: NI dderbynnir cardiau rhagdaledig.
  3. Gallwch chi archebu cyfradd flynyddol ostyngol, ‘Beiciau Campws Prifsygol Abertawe’ nawr am £10
  4. Rydych chi’n barod!

Amodau'r gyfradd flynyddol ostyngol

Am £10 y flwyddyn yn unig, bydd y 30 munud cyntaf yn cael eu cynnwys bob tro y byddwch chi’n llogi beic.

Ar gyfer pob 20 munud yn ychwanegol, codir tâl o 50c. Bydd uchafswm dyddiol o £5 y dydd (cyfnod o 24 awr) ar gyfer llogi beic.

Sylwer bod y gyfradd yn berthnasol i’r beic cyntaf os caiff dau feic eu llogi ar yr un pryd.

Rhagor o resymau i feicio

Mae cannoedd o feiciau ar stepen eich drws!

Mae gan ein cynlluniau feiciau a gorsafoedd ledled y campws a’r ddinas. Rhentwch a beicio’n syth i’ch hoff siop lyfrau neu gaffi. Does dim rhaid i chi deithio rhan o’r ffordd ar y bws.

Mae’n hawdd, yn hwyl ac yn gynaliadwy

Mae beicio’n rhatach ond, ar ben hynny, mae’n well i’ch iechyd a’r amgylchedd. Dewch o hyd i un o orsafoedd Beiciau Prifysgol Abertawe sy’n agos atoch chi ar fap yr ap nextbike, sganio hwn a mwynhau’r awyr agored a thaith heb betrol!

Arbedwch arian i’w wario ar yr hyn sy’n bwysig

Ni waeth a ydych chi’n teithio i weld ffrindiau neu deulu, neu’n mynd i’r llyfrgell neu’r clwb, gallwch chi gyrraedd am lai o arian ar feic cynllun Beiciau Prifysgol Abertawe. Mae cyfraddau safonol yn dechrau ar £2 am 20 munud ond gall llawer o fyfyrwyr a staff gael buddion hyd yn oed yn well megis y canlynol:

  •  Llogi beic am ddim nifer diderfyn o weithiau
  • Llogi beic am 24 awr am £5 yn unig
  • 50% oddi ar bris yr aelodaeth – neu am ddim os yw eich ysgol yn gymwys!