Fresh new look for Cardiff and Penarths nextbikes this summer

13.07.2021

Golwg newydd ar feiciau Nextbike Caerdydd a Phenarth yr haf hwn

 

Mae cynllun rhannu beiciau poblogaidd Caerdydd a Phenarth, a weithredir gan Nextbike, yn paratoi i gyflwyno beiciau â golwg newydd yr haf hwn.

 

Am bythefnos o ddydd Mawrth 20 Gorffennaf bydd Nextbike yn tynnu’r beiciau oddi ar y strydoedd dros dro er mwyn eu hadnewyddu.

 

Caiff y beiciau eu hailwampio cyn mynd yn ôl ar y strydoedd ddydd Mawrth 3 Awst. Cyn bo hir byddant yng nghwmni fflyd o 50 o e-feiciau a gorsafoedd Caerdydd, a gaiff eu lansio ar ddiwedd mis Awst.

 

Mae Nextbike wedi rhoi sicrwydd i gwsmeriaid sy'n talu am danysgrifiadau misol neu flynyddol y caiff eu haelodaethau eu rhewi tra bydd tarfu ar y gwasanaeth.

 

Ac i ddathlu dychweliad y fflyd lawn ar 3 Awst, bydd Nextbike yn cynnig reidiau am ddim ar ei feiciau safonol i bob cwsmer am yr wythnos gyfan, rhwng 3 Awst a 9 Awst. Bydd cwsmeriaid yn gallu manteisio’n awtomatig ar y cynnig hwn, heb angen unrhyw godau arbennig - y cyfan fydd ei angen arnynt yw cyfrif gweithredol.

 

Dywedodd Krysia Solheim, Rheolwr Gyfarwyddwr Nextbike: "Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl yn dibynnu ar ein fflyd o feiciau Nextbike i deithio o amgylch Caerdydd a'r Fro, a hoffem ni ymddiheuro ymlaen llaw am yr anghyfleustra y bydd yr ataliad byr dros dro hwn yn ei achosi.

 

"O'r patrymau rhentu rydym ni wedi'u gweld dros y misoedd diwethaf, rydym ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl wedi bod yn defnyddio'r beiciau ar gyfer teithiau hamdden ar ddiwedd y dydd, yn hytrach na'u defnyddio ar gyfer teithiau cymudo traddodiadol. Rydym ni’n disgwyl i hyn newid yn ystod y misoedd nesaf wrth i fwy o bobl ddychwelyd i'w gweithleoedd, yn hytrach na gweithio gartref. Dyna pam rydym ni wedi cynllunio'r gwaith adnewyddu nawr, cyn i bobl ddechrau cymudo i'r gwaith neu'r ysgol eto.

 

"Hoffem ni sicrhau cwsmeriaid y bydd cyn lleied o darfu â phosibl.

 

"Rydym ni’n cynghori cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw i ddod o hyd i ffordd arall o deithio o amgylch y ddinas yn ystod y pythefnos.

 

"I ddweud diolch i'n cwsmeriaid am eu cefnogaeth a'u hamynedd parhaus, byddwn ni’n cynnig nifer diderfyn o reidiau 30 munud ar ein beiciau safonol rhwng 3 Awst a 9 Awst fel y gall pawb roi cynnig ar un o'r beiciau newydd am ddim."

 

Datgelodd Krysia hefyd y byddai e-feiciau ar gael yn fuan i'w rhentu ar strydoedd Caerdydd.

 

"Ym mis Awst bydd e-feiciau Caerdydd yn cael eu cyflwyno, gyda phum gorsaf yn cael eu lansio i ddechrau.

 

"Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu teithio rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg gyda hwb trydan ychwanegol, sy'n newyddion gwych i'r ddwy ardal."

 

Dylai cwsmeriaid sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â’r gwasanaeth cwsmeriaid yn

info@nextbike.com neu ffonio 0292 248 1736.

 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.nextbike.co.uk

 

Fresh new look for Cardiff and Penarth’s nextbikes this summer

 

Cardiff and Penarth’s popular bike share scheme, operated by nextbike, is getting ready for a fresh new look this summer.

 

To allow the refresh to take place, nextbike will be temporarily suspending the fleet’s service for two weeks from Tuesday July 20, when bikes will be removed from the streets.

 

The bikes will be revamped before being put back out on the streets on Tuesday August 3. They will soon be joined by a fleet of 50 Cardiff e-bikes and stations, which will be launched later on in August.

 

Nextbike has reassured customers who pay for monthly or annual subscriptions that their memberships will be paused while the service is disrupted.

 

And to celebrate the return of the full fleet on August 3, nextbike will be offering free rides on its standard bikes to all customers for the whole week, from August 3 to August 9. Customers will be able to automatically access this offer, with no special codes needed - they will just need an active account to take advantage.

 

Nextbike MD, Krysia Solheim, said: “We know many people rely on our fleet of nextbikes to get around Cardiff and the Vale, and we’d like to apologise in advance for the inconvenience that this short temporary suspension in service will cause.

 

“From the rental patterns we’ve seen over the last few months, we know most people have been using the bikes for leisure rides later on in the day, rather than using them for traditional commuter journeys. We’re expecting this to change in the coming months as more people return to their place of work, instead of working from home. That’s why we’ve planned the refresh now, before people begin their return to commuting back to work or school.

 

“We’d like to reassure customers that the disruption will be kept to an absolute minimum.

 

“We’re advising customers to plan ahead to find an alternative way to travel around the city during the two-week period.

 

“To say thanks to our customers for their continued support and patience, we'll be giving away unlimited 30 minute rides on our standard bikes between August 3 - August 9 so everyone can try out one of the refreshed bikes for free.”

 

Krysia also revealed that e-bikes would soon be available to rent on the streets of Cardiff.

 

“August will see the introduction of Cardiff’s highly-anticipated e-bikes, with five stations initially being launched.

 

“This means you will be able to travel between Cardiff and the Vale of Glamorgan with an added electric boost, which is fantastic news for both areas.”

 

Customers who have any questions should contact customer service at

info@nextbike.com or on 0292 248 1736.

 

For more information, visit www.nextbike.co.uk