English Below - Oeddech chi'n gwybod bod e-feiciau OVO yn dod i Gaerdydd? Gan ddechrau ddydd Iau 26 Awst, bydd 50 o e-feiciau OVO ar gael i'w llogi mewn chwe gorsaf e-feiciau newydd! Yn sgil yr ehangiad hwn, nid yn unig y byddwch yn gallu manteisio ar effeithlonrwydd trydanol i fynd o gwmpas, ond bydd Bro Morgannwg a Chaerdydd yn cael eu dwyn ynghyd mewn un rhwydwaith e-feiciau OVO. 'Nawr, ar gyfer eich holl anghenion cymudo, teithio a mynd am dro, mae yna feic OVO i sicrhau eich bod yn cyrraedd.
Beth sy'n arbennig am e-feic?
Mae e-feiciau OVO yn hawdd eu gweld gyda'i fframiau mwy trwchus a'u beicwyr siriol. Maent yn cyfuno beiciau clyfar Beiciau OVO â modur trydanol sy'n cael ei sbarduno pan fyddwch yn dechrau pedlo.
Yn ogystal â chynnig taith fwy cyfforddus, mae e-feiciau OVO yn gyflymach – gallant fynd cyn gyflymed â 15 mya. Cofiwch dalu mwy o sylw wrth reidio e-feic, oherwydd gall y cyflymder uchaf fod yn uwch na'r hyn yr ydych yn gyfarwydd ag ef.
Gallwch gael blas ar ein beiciau yma.
Sut yr wyf yn llogi e-feic OVO yng Nghaerdydd?
Mae llogi e-feic OVO yn rhwydd! Dyma sut y mae'n gweithio:
I gael gwybodaeth am y modd i reidio, llogi, dychwelyd neu barcio eich beic, dysgwch ragor yma!
A allaf ddychwelyd e-feic OVO i unrhyw le?
Mae'n rhaid dychwelyd e-feiciau OVO i orsafoedd e-feiciau OVO, naill ai yng Nghaerdydd neu ym Mro Morgannwg, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwefru ac yn barod ar gyfer pob beiciwr. Dim ond y gorsafoedd hyn sydd â'r gwefrwyr a'r cloeon priodol.
Ond peidiwch â phoeni, mae'n hawdd dod o hyd iddynt! Edrychwch ar fap yr ap nextbike a chwilio am y symbolau e-feic OVO gwyrdd. Neu chwiliwch am y gorsafoedd hyn ar y stryd.
Byddwch yn ymwybodol y bydd dirwy o £20 yn cael ei hychwanegu at y gost llogi os byddwch yn dychwelyd e-feic OVO i orsaf nad yw'n orsaf drydan neu'n ei adael y tu allan i orsaf. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cymryd adnoddau ychwanegol i symud e-feiciau 'nôl i orsafoedd gwefru. Mae dychwelyd beiciau i ffwrdd oddi wrth orsafoedd hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu fandaleiddio. Mae dirwyon ychwanegol yn berthnasol i feiciau safonol (£200) ac e-feiciau (£500) sydd wedi'u fandaleiddio.
Ond gallwch ein helpu i sicrhau bod y cynllun cyfan yn rhedeg yn ddidrafferth ar gyfer pawb!
Helpwch ni trwy roi gwybod am unrhyw feic sydd wedi'i adael yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, a byddwch yn gymwys i gael credyd gwerth £5*. Yn syml, tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol (@nextbikeUK), a defnyddiwch #Arwrnextbike neu #nextbikeHero pan fyddwch yn rhoi gwybod am feic. I roi gwybod am feic trwy ein gwefan, neu i gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
*Gall telerau ac amodau fod yn berthnasol
Faint y mae'n ei gostio i logi e-feic OVO?
Mae symudedd trydanol ar flaenau eich bysedd am gyfraddau sy'n amrywio o fforddiadwy iawn i fforddiadwy iawn, iawn, yn dibynnu ar osodiad eich cyfrif! Ar gyfer beicwyr achlysurol, mae e-feiciau OVO yn costio £2 am 30 munud. Ar gyfer aelodau, mae e-feiciau OVO yn costio £1 am hanner awr.
Dysgwch ragor am ein tariffau gwahanol ac ystyried a yw aelodaeth yn iawn ar eich cyfer chi, yma!
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Did you know that OVO e-bikes are coming to Cardiff? Starting Thursday, August 26th, 50 OVO e-bikes at 6 new e-bike stations will be available to rent! With this expansion, you can not only get around with electric efficiency, but it also brings Vale of Glamorgan and Cardiff together into one OVO e-bike network. Now, for all your commuting, travel, and touring needs, there is an OVO bike to get you there.
What’s special about an e-bike?
OVO e-bikes are easy to spot with their thicker frames and smiling riders. They combine OVO Bikes smart bikes with an electric motor that kicks in when you start pedalling.
OVO e-bikes don’t only offer a more comfortable ride, but are faster. Up to 15 mph fast. Please pay extra attention when riding an e-bike, as the maximum speeds may be more than you are used to.
You can get a little taste of our e-bikes here.
How do I rent an OVO e-bike in Cardiff?
Renting an OVO e-bike is easy! Here’s how it works:
For information on how to ride, rent, return, or temporarily park your rental, learn more here!
Can I return an OVO e-bike anywhere?
OVO e-bikes must be returned to OVO e-bike stations, either in Cardiff or Vale of Glamorgan, to ensure that they are charged and ready for all riders. Only these stations are equipped with the proper chargers and locks.
But don’t worry, they are easy to find! Simply look in the nextbike app map and spot the green OVO e-bike symbols. Or look for these stations on the street.
Please be aware that if you return an OVO e-bike to a non-electric station or outside of a station, a £20 fine will be added to your rental. This is because it takes additional resources to move e-bikes back to charging stations. Returning bikes away from stations also increases the likelihood of vandalism. Additional fines apply for vandalised standard bikes (£200) and e-bikes (£500).
But you can help us to keep the whole scheme running smoothly for everyone!
Report any abandoned bike in Cardiff or Vale of Glamorgan and you’ll be eligible for a £5 credit*. Simply tag us on social media (@nextbikeUK) and use #nextbikeHero when reporting a bike. To report a bike via our website or for more information, click here. *T&C’s apply
How much does renting an OVO e-bike cost?
Electric mobility is at your fingertips for rates ranging from really affordable to really, really affordable, depending on your account setting! For casual riders, OVO e-bikes are only £2 for 30 minutes. For members, OVO e-bikes are only £1 for a half hour.
Learn more about our different tariffs and see if a membership is right for you here!